An Celtlyver

Hafan / Baile

Cymraeg / English

CY: Amdanaf fi

Cyflwyniad

Rwy'n ddau-deg-ddau oed ac rwy'n gwneud gradd baglor Astudiaethau Celtaidd ar hyn o bryd. Rwy'n dod o Gymru, ac mae fy nheulu'n dod o Gernyw, yr Alban, ac Iwerddon (ac mae cyndeidiau Seisnig a Sgoteg Ulster gyda fi). Mae diddordeb mawr gyda fi mewn ieithyddiaeth Geltaidd gymharol, cadw/adfywio iethoedd lleiafrifol, gwasgariadau Celtaidd, gwasgariadau Sgoteg Iseldiroedd/Ulster, ac hanes fy nheulu.

Fy ieithoedd

Saesneg (C2), Cymraeg (B2), Gwyddeleg (A2), Cernyweg (A1), Sgoteg (A1?), Llydaweg (A1), Eidaleg (A1), Tsieinëeg Mandarin (A1), Esperanto (A1)

Cymraeg:

Rwy'n dysgu tipyn o Gymraeg ers ôn i'n dri oed yn y feithrinfa, er bod hi'n ymadroddion megis "bore da" a "diolch" yn bennaf yn y cychwyniad. Es i i ysgolion Saesneg, felly dôn i ddim yn dysgu llawer o Gymraeg, a dôdd dim diddordeb ynddi hi gyda fi tan i fi ddechrau astudio'r iaith ar fy mhen fy hun y tu fâs o'r ysgol. Yn yr ysgol uwchradd, sylweddolais i fod ieithoedd yn cael eu dysgu'n wael iawn mewn ysgolion (dosbarthiadau Saesneg iaith gyntaf a dosbarthiadau Cymraeg/Ffrangeg/ayyb. ail iaith), felly dechreuais i ddefnyddio Duolingo i wella fy Nghymraeg tua 2017/2018 pan ôn i'n dechrau gwneud TGAUau. Fy nhro cyntaf dysgu gramadeg ôdd hyn, ac rôn i'n gallu gwneud fy mrawddegau fy hun a deall gramadeg Cymraeg o'r diwedd, yn lle jysd yn dysgu rhestrau geirfa ac ymadroddion a rhoddwyd gan yr ysgol. Rôn i'n dechrau caru Cymraeg yn fawr iawn oherwydd Duolingo (ond dwi ddim yn gallu argymell Duolingo nawr, gan bod nhw'n tynnu'r nodiadau gramadeg oddi ar y mwyafrif o'r cyrsiau). Ar ôl TGAU gwnes i Gymraeg Safon A, ac wedyn ymgeisiais i am gradd baglor Astudiaethau Celtaidd yn y brifysgol. Nawr rwy'n gallu siarad Cymraeg yn eithaf da, serch y sistem addysg, ac rwy'n cael gwersi prifysgol yn Gymraeg ers 2022 ac rwy'n defnyddio'r iaith i gyfathrebu bob dydd yn y brifysgol. Baswn i'n hoffi defnyddio'r iaith mwy yn fy mywyd personol y tu fâs y brifysgol hefyd.

Cernyweg:

Mae fy nhad yn dod o Gernyw, ac ers ôn i'n blentyn, ces i fy nysgu tipyn o Gernyweg gan fy nhad, ond yn bennaf gan fy nhad-cu ôdd gyda diddordeb mewn cymharu geiriau Cernyweg a Chymraeg. Dwi ddim yn siŵr pa mor rhugl ôdd fy nhad-cu, ond mae llawer o adnoddau Cernyweg gyda fi a ges i oddi wrtho fe ar ôl iddo fe farw. Does dim syniad gyda fi bwy ôdd y siaradwr Cernyweg rhugl olaf yn y teulu. Rwy wedi bod yn trïo dysgu mwy o Gernyweg ar fy mhen fy hun dros y flwyddyn ddiwethaf. Gwaethaf modd dyw fy mhrifysgol ddim yn dysgu Cernyweg,

Sgoteg:

Mae fy mam yn dod o'r Alban, ond symudodd hi i Gymru pan ôdd hi'n blentyn, a dysgais i eiriau ac ymadroddion Sgoteg oddi wrthi hi ac oddi wrth fy nhad-cu. Rwy'n credu bod fy nhad-cu'n rhugl yn Sgoteg. Rwy'n gallu cofio'n glir iawn pan ôn i'n 10 oed ac ôdd e'n dysgu geiriau ac ymadroddion Sgoteg i fi ar gyfer prosiect ysgolion am yr Alban. Dwi ddim yn siŵr beth odi fy level CEFR yn Sgoteg, achos mod i'n gallu deall mwy nag rwy'n gallu gweud gan mod i wedi dysgu geiriau pan ôn i'n blentyn, ac oherwydd yr iaith agosaf i Saesneg odi Sgoteg. Hefyd, dwi erioed wedi astudio Sgoteg, chwaith. Rwy'n meddwl bod mwy o bethau'n stopio fi'n dysgu Sgoteg na'r ieithoedd eraill fy nheulu. Rwy'n meddwl bod hyn gan fod Sgoteg yn aml yn cael ei weld fel tafodiaith ddoniol, ddiaddysg Saesneg, a dwi ddim eisiau ymddangos fel mod i'n gwawdio'r iaith gan does dim acen Albanaidd gyda fi. Hefyd mae cyndeidiau Sgoteg Ulster a Gwyddelig gyda fy nheulu Albanaidd.

Gwyddeleg:

Mae fy mam-gu (mam fy mam) yn dod o Wyddeleg a dysgodd hi dipyn o Wyddeleg fel ail iaith, felly ces i fy magu'n gwybod rhai o Wyddeleg oddi wrthi hi ac oddi wrth fy mam. Iaith fy nheulu ges i fy magu gyda'r wybodaeth lleiaf odi Gwyddeleg, er dysgais i dipyn o'r iaith fy mhen fy hun. Dechreuais i astudio Gwyddeleg yn 2023 yn y brifysgol yn ystod fy ngradd Astudiaethau Celtaidd.

EN: About me

Introduction:

I'm a twenty-two-year-old, currently doing a bachelor's degree in Celtic Studies. I'm Welsh, and from a Cornish/Scottish/Irish family (and more distant English and Ulster Scots heritage). I'm very interested in comparative Celtic linguistics, preserving/revitalising minority languages, Celtic diasporas, Lowland/Ulster Scots diasporas, and in my family history.

My languages

English (C2), Welsh (B2), Irish (A2), Cornish (A1), Scots (A1?), Breton (A1), Italian (A1), Mandarin Chinese (A1), Esperanto (A1)

Welsh:

I've been learning Welsh in some capacity since I was three, although in the early days it was mostly only phrases like "bore da" and "diolch" in my nursery. I went to English-medium schools, so I didn't learn lots of Welsh and I didn't have a passion for it until I started studying it on my own outside of school hours. In high school, I realised that languages are taught awfully in school (both first-language English classes and 2nd-language Welsh/French/etc. classes), so I started using Duolingo to improve my Welsh, in about 2017/2018 when I was starting to do GCSEs. This was my first time learning grammar and actual useful things I could use to construct my own sentences in Welsh, and not just the vocabulary lists and pre-made phrases they gave us in school. I really fell in love with learning Welsh thanks to Duolingo (although, most Duolingo courses, including the Welsh one, no longer have the grammar notes so I can't recommend it as a resource anymore), and I went on to do Welsh at A Levels, and then a Celtic Studies undergraduate degree at university. Despite the education system's efforts, I can speak Welsh quite well, and I've been having university classes through Welsh since 2022 and I use it to communicate every day at university. I would like to integrate the language more into my non-academic life too.

Cornish:

My father is from Cornwall, and from a young age I was taught some Cornish words by him, but mostly by my paternal grandfather who was mostly just curious to see how they compared to Welsh words. I have no idea how fluent my grandfather was in Cornish, but I have a lot of Cornish resources that I inherited from him after he died. I have no idea who the last fluent Cornish speaker in the family was. I've been trying to get back into teaching myself Cornish over the last year or so. Unfortunately my university doesn't teach Cornish.

Scots:

My mother is from Scotland, although she moved to Wales as a child, and I learned some Scots words and phrases from her and my maternal grandfather. I believe my grandfather was fluent in Scots. I distinctly remember him teaching me Scots words and phrases when I was 10 for a school project I was doing on Scotland. I don't really know my CEFR level in Scots, because I can understand more than I can say due to picking up words as a child and the fact that Scots is the most closely-related language to English, an also because I've never sat down to learn the language. I always feel like there's a larger mental block preventing me from learning Scots than my other heritage languages, I think due to the fact that it's mostly perceived as a funny, uneducated dialect of English, and I'm afraid of coming across as mocking because I don't have a Scottish accent. My Scottish family also have Ulster Scots and Irish heritage.

Irish:

My maternal grandmother is from Ireland and learned some Irish as a second language, so I grew up knowing little bits of Irish from her and my mother. Irish was probably the heritage language I grew up knowing the least of, although I taught myself a bit. I started studying Irish at university in 2023 as part of my Celtic Studies degree.

中文:我

我二十二岁,我是威尔士人。我是大学生,我在学塞尔特学。